Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gyfranogiad yn y Celfyddydau yng Nghymru

Ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau

Ymateb gan Bagad Pibau Morgannwg

 

1. Pa sefydliad/corff ydych chi’n ei gynrychioli?

Bagad Pibau Morgannwg

 

2. Pa grwpiau o bobl sy’n cyfranogi yng ngweithgareddau celfyddydol eich sefydliad?

Pobl o bob oedran, plant i fyny at bobl hen oed, Cymraeg a di-Gymraeg, gwrywaidd a benywaidd. Ar y cyfan, pobl sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig.

 

3. A ydych yn credu bod newidiadau mewn cyllidebau wedi effeithio ar gyfranogiad yn y celfyddydau, yn gadarnhaol neu’n negyddol?

Mae wedi bod cynydd yn y swm o arian ar gael ar gyfer gweithgareddau celfyddydol yn ein ardal, Merthyr Tudful, sydd yn datblygiad positif iawn.

 

4. A ydych yn credu bod hyn wedi effeithio mwy ar rai grwpiau o bobl nag eraill?

Mae pobl mewn ardaloedd difreintiedig yn elwa yn fwy o gynnydd yn y arian celfyddydol. Ym Merthyr Tudful mae na gyfleoedd newydd i bobl ifainc i wneud drama, dawns, cerddoriaeth, celf gweledol ayyb.

 

5. A oes bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer cyfranogiad yn y celfyddydau, o ran demograffeg neu ddaearyddiaeth?

Oes, does dim digon o weithgareddau ar gael i bobl cymryd rhan yn ein celfyddydau traddodiadol ar draws Cymru oherwydd y lefel o gyllid sydd ar gael i'r sefydliadau sydd yn arwain y datblygiadau yn y maes hwn (Trac, Clera ayyb)

 

6. A oes digon o ffynonellau ariannu ar gael ar wahân i Gyngor Celfyddydau Cymru? A yw ffynonellau ariannu eraill yn hygyrch?

Oes, mae ffynonellau ariannu ar gael ond mae'r arian sydd ar gael yn cael ei anelu at rhai ardaloedd neu gymedau penodol, e.e. ardaloedd gweledig, pobl ifainc ayyb.

 


 

7. Pa rôl y mae’r sector celfyddydau gwirfoddol yn ei chwarae mewn perthynas â hyrwyddo cyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru a sut y gellir cefnogi hyn

Mae'r sector gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig iawn i hyrwyddo cyfranogiad yn y celfyddydau. Mae cannoedd o sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru sy'n trefnu gweithgareddau celfyddydau pob wythnos ym mhob cwr o'r wlad.

 

8. A yw’r berthynas strategol rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyrff sy’n dosbarthu’r arian i’r celfyddydau yn effeithiol o ran cynyddu cyfranogiad?

Ydy, rwy'n gweld llawer mwy o gyfleoedd i bobl cymryd rhan yn y celfyddydau nawr i gymharu a 10 mlynedd yn ol. Ond wrth gwrs, byddai ragor o arian oddi wrth y Llywodraeth Cymru tuag at datblygu rhagor o gyfleoedd yn cael ei werhtfawrogi yn fawr iawn.

 

9. Bydd pob corff cyhoeddus yng Nghymru wedi cyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol erbyn mis Ebrill 2012. A ydych yn credu y bydd y dyletswyddau cydraddoldeb newydd hyn yn y sector cyhoeddus yn helpu i gynyddu cyfranogiad yn y celfyddydau ymysg grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru?

Bydd, ond dim ond os oes arian ychwanegol yn cael ei anelu at gynyddu cyfranogiad yn y celfyddydau, cynydd o arian refeniw yn y sector celfyddydau cymunedol a gwirfoddol yn benodol.